Program Addysg Grefyddol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig) School of Education Bangor University

Addysg Grefyddol - TAR Uwchradd (yn arwain at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig - Graddedigion yn unig)

Inggris

3

Apa yang akan saya pelajari?

UCAS Code: 3D3Z**TAR Uwchradd - Addysg Grefyddol (gyda SAC)**Rydym yn byw mewn cymdeithas mor amrywiol sy'n cynnwys llawer o grefyddau, llawer o athroniaethau a llawer o systemau moesegol. O’r herwydd, mae’n allweddol ein bod yn datblygu gwybodaeth am y gwahanol feysydd hyn ymhlith cenedlaethau ifanc. Mae’r rhaglen TAR Addysg Grefyddol wedi’i strwythuro i hyrwyddo’r nod hwn ac mae’n galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol i ddod yn athrawon effeithiol, arloesol a gwybodus.Bydd y cwrs TAR ym Mangor yn sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau a nodweddion allweddol i ddod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol o'r radd flaenaf. Yn ogystal â datblygu’r galluoedd craidd i fod yn athrawon Astudiaethau Crefyddol rhagorol, byddwch hefyd yn datblygu llawer o sgiliau a fydd yn berthnasol ar gyfer rôl athrawon Dyniaethau, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi archwilio agweddau eraill ar y Cwricwlwm Dyniaethau, fel eich bod yn gwbl barod i ddiwallu anghenion y Cwricwlwm newydd i Gymru.**Pam astudio gyda ni?**• Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o addysgu cenedlaethau o bobl sy'n ymddiddori mewn crefydd, athroniaeth a moeseg ac, o'r herwydd, mae ganddi lawer o adnoddau, deunyddiau ac arbenigeddau i ddatblygu ymarferwyr addysgu o'r safon uchaf.• Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau Ysgol Arweiniol gyda mentoriaid hyfforddedig, ynghyd â dau Leoliad Ysgol yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.• Cyfle i astudio tra'n ymgolli yn niwylliant ac iaith Cymru, yma ym mhrydferthwch Gogledd Cymru. Cefnogaeth broffesiynol ar gyfer dysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n ddefnyddiwr rhugl o'r iaith.Byddwch yn ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf.Mae'r TAR hwn gyda SAC yn cael ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml mae modd ei drosglwyddo ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn addysgu. Dylai'r rhai sy'n ceisio addysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio adnabyddiaeth a throsglwyddedd Statws Athro Cymwys gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw.**Cyfunwch y pwnc hwn â Gweithgareddau Awyr Agored.**Mae Bangor yn lle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â'n cysylltiadau sydd wedi’u sefydlu â darparwyr addysg awyr agored lleol, yn gyfle gwych i gyfuno'r pwnc hwn â gweithgareddau awyr agored yn ystod eich hyfforddiant.Os yw hynny o ddiddordeb i chi yna dylech wneud cais am **3F5T**.

Saya termasuk departemen apa?

School of Education

Pilihan kuliah

Purna Waktu (1 tahun)

Biaya kuliah
£19.000,00 (Rp 384.497.669) per tahun
Ini adalah biaya sementara yang belum ditetapkan

* Biaya yang tercantum di halaman ini untuk tujuan indikatif, silahkan baca informasi resmi dari universitas bersangkutan

Tanggal mulai

September 2026

Tempat

Main Site

Bangor University,

Bangor,

Gwynedd,

LL57 2DG, Wales, United Kingdom

Mungkin ada beberapa persyaratan IELTS yang berbeda, tergantung jurusan yang kamu ambil

Product of

Sudahkah kamu bergabung dengan komunitas IDP?

Dapatkan cerita langsung dari alumni, gabung grup, dan nikmati fitur komunitas terbaru kami!

Cek komunitasnya sekarang!
cta banner image

Info tentang Bangor University

Aneka fasilitas khusus & canggih di Bangor serta para pengajar yang antusias membantu para mahasiswa menikmati program studi yang sesuai & bermanfaat.

  • Beragam pilihan program studi yang disegani
  • Fasilitas lengkap yang dirancang sesuai dengan setiap fakultas
  • Jaringan dukungan yang mumpuni untuk semua mahasiswa
  • Lokasi yang indah & fantastis, dekat dengan kota-kota besar

Hubungi kami