Paratowch ar gyfer gyrfa werth chweil yn yr oes ddigidol gyda’n cwrs TAR Uwchradd mewn Cyfrifiadura.Mae’r rhaglen hon, sy’n rhan o’n Haddysg Gychwynnol Athrawon (AGA), yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i gael Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac addysgu cyfrifiadura mewn ysgolion uwchradd.Byddwch yn dysgu sut i addysgu agweddau allweddol ar gyfrifiadura, gan gynnwys rhaglennu, algorithmau, a llythrennedd digidol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn barod ar gyfer byd sy’n cael ei lywio gan dechnoleg. Mae’r cwrs yn cyfuno hyfforddiant yn y brifysgol gyda lleoliadau ysgol ymarferol, gan gynnig cydbwysedd rhwng theori a phrofiad ymarferol.Bydd lleoliadau gwaith mewn amrywiaeth o ysgolion, gan gynnwys lleoliadau trefol, gwledig, a chyfrwng Cymraeg, yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich ymarfer addysgu mewn amgylcheddau amrywiol. Bydd y profiadau hyn yn eich helpu i ddeall sut i addasu eich dulliau addysgu i ddiwallu anghenion gwahanol fyfyrwyr, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu ymgysylltu â’r pwnc.Mae’r cwrs hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau addysgu hanfodol, megis rheoli ystafell ddosbarth, cynllunio effeithiol, a strategaethau asesu. Byddwch yn derbyn cefnogaeth mentoriaid drwy gydol eich lleoliadau i’ch helpu i fireinio eich arddull addysgu a meithrin hyder.Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ysbrydoli myfyrwyr i ymgysylltu â chyfrifiadura, gan roi’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern.Mae’r rhaglen yn amlygu pwysigrwydd addysg wyddoniaeth mewn byd cynyddol dechnolegol. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Mae’r cwrs hwn wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru fel maes pwnc â blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o £15,000 ar gael.Mae bwrsariaethau gwerth £15,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd pwnc blaenoriaeth uchel. Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2024 i 2025 LLYW.CYMRU
Saya termasuk departemen apa?
Teacher Education
Pilihan kuliah
Purna Waktu
(1 tahun)
Biaya kuliah
£15.600,00 (Rp 315.692.823)
per tahun
Ini adalah biaya sementara yang belum ditetapkan
Tanggal mulai
Direncanakan September 2027
Tempat
SA1 Waterfront Campus, Swansea
UWTSD,
Kings Road,
Swansea,
SA1 8AL, Wales, United Kingdom
Mungkin ada beberapa persyaratan IELTS yang berbeda, tergantung jurusan yang kamu ambil