Program Cymraeg ac Ieithyddiaeth - BA (Hons) School of Welsh Cardiff University

Cymraeg ac Ieithyddiaeth - BA (Hons)

Inggris

1

Apa yang akan saya pelajari?

Ar ein BA mewn Cymraeg ac Ieithyddiaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau allweddol ar draws ystod eang o bynciau ieithyddol. Byddwch yn cyflawni lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol sydd wedi'u datblygu'n dda sy'n berthnasol i'r Gymru fodern.Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf a'r ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y mwyafrif o fodiwlau'r ail flwyddyn, a holl fodiwlau'r flwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwlau yn caniatáu ichi archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.Mewn ieithyddiaeth, byddwch yn cael sylfaen drylwyr wrth ddadansoddi iaith (gan gynnwys agweddau allweddol ar seineg, morffoleg a chystrawen). Byddwch hefyd yn gallu dewis modiwlau ar bynciau amrywiol, gan ganiatáu i chi fynd ar drywydd eich diddordebau a’r hyn rydych chi’n angerddol amdano, defnyddio'r dulliau diweddaraf i astudio gyda llygad beirniadol, a gwneud cysylltiadau â dadleuon yn y maes cyhoeddus.Gan ennill sgiliau gwella gyrfa, byddwch yn cael y cyfle i gynhyrchu gwahanol fathau o destunau a gweithio gyda meddalwedd arbenigol. Byddwch yn ennill sgiliau o ddadansoddi enghreifftiau o iaith yn y byd go iawn ac yn dysgu sut i lunio dadleuon a chyfleu syniadau i wahanol gynulleidfaoedd. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau proffesiynol. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â'r Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.Gan raddio gydag ystod eang o sgiliau academaidd, ieithyddol ac ymarferol – gan gynnwys gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu – yr hyder i’w defnyddio a’r gallu i weld y darlun mawr, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi gan gyflogwyr a byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd ymlaen i ddilyn ystod o yrfaoedd. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen****Y byd o'ch cwmpas**Cyfunwch eich gwybodaeth am y Gymraeg ac ieithyddiaeth, gan ganolbwyntio ar eu cymhwysiad i'r byd cymdeithasol.**Estyn allan**Mae amrywiaeth eang o fodiwlau yn y Gymraeg ac ieithyddiaeth yn eich galluogi i archwilio eich diddordebau a darganfod rhai newydd.**Canolbwyntio ar y dyfodol**Datblygwch sgiliau cyflogadwyedd y mae galw amdanynt, gan wella eich rhagolygon gyrfa mewn ystod eang o feysydd.**Cymraeg yn y gweithle**Magu eich hyder a'ch sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.**Cyfathrebu'n effeithiol**Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau a'ch dadleuon.

Saya termasuk departemen apa?

School of Welsh

Pilihan kuliah

Purna Waktu (3 tahun)

Biaya kuliah
£25.450,00 (Rp 515.024.510) per tahun
Ini adalah biaya tetap

* Biaya yang tercantum di halaman ini untuk tujuan indikatif, silahkan baca informasi resmi dari universitas bersangkutan

Tanggal mulai

September 2027

Tempat

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

Mungkin ada beberapa persyaratan IELTS yang berbeda, tergantung jurusan yang kamu ambil

Product of

Sudahkah kamu bergabung dengan komunitas IDP?

Dapatkan cerita langsung dari alumni, gabung grup, dan nikmati fitur komunitas terbaru kami!

Cek komunitasnya sekarang!
cta banner image

Info tentang Cardiff University

Perkuliahan di Cardiff University diajar oleh para akademisi terkemuka. Para mahasiswa menikmati fasilitas pembelajaran yang modern dan spesialis.

  • Satu-satunya universitas anggota Russell Group di Wales
  • Masuk dalam jajaran 180 universitas terbaik dunia (QS, 2027)
  • 5.000 mahasiswa internasional
  • Jaminan ketersediaan akomodasi bagi mahasiswa internasional

Hubungi kami