Program Cymraeg - BA (Hons) School of Welsh Cardiff University

Cymraeg - BA (Hons)

Inggris

1

Apa yang akan saya pelajari?

Drwy astudio’r Gymraeg, byddwch yn archwilio’r berthynas rhwng iaith, hunaniaeth a chymdeithas a’r cysylltiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n siapio’r Gymraeg a phrofiadau ei siaradwyr.Gyda’n rhaglen Cymraeg (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant. Byddwch yn meithrin sgiliau lefel uchel mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithio a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy'n berthnasol i'r Gymru gyfoes a thu hwnt. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â’r cyfleon a’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg fel iaith leiafrifol mewn ffordd eangfrydig a chydweithredol, gydag ystyriaeth i bwysigrwydd cynaliadwyedd diwylliannol ac amgylcheddol. Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os yw'r Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn dilyn modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf i ymarfer a datblygu eich gwybodaeth ieithyddol a’ch sgiliau cyfathrebu. Wedi hynny, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd ar gyfer modiwlau'r ail a’r drydedd flwyddyn, gyda chefnogaeth bellach i fyfyrwyr ail iaith ar ffurf tiwtorialau iaith a chyfathrebu. Asgwrn cefn y radd yw ein modiwlau craidd a fydd yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer archwilio iaith, llenyddiaeth, hunaniaeth a chynaliadwyedd mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes. Yn ogystal, mae ein modiwlau dewisol yn rhoi’r cyfle ichi arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu broffesiynol, gan gynnwys polisi iaith ac ysgrifennu creadigol. Hefyd, byddwch yn meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dealltwriaeth o anghenion y Gymraeg yn y gweithle drwy ymgymryd â lleoliad gwaith lle defnyddir y Gymraeg. Yn y flwyddyn olaf, cewch y cyfle i roi eich holl sgiliau ar waith drwy ymgymryd â phrosiect ymchwil neu bortffolio creadigol, lle byddwch yn cymryd perchnogaeth o’r pwnc a’ch siwrne addysgol drwy ddylunio a chynnal prosiect ar faes o'ch dewis chi sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Dyma gyfle ichi arddangos eich angerdd, eich hyder a’ch mewnwelediad, wrth ddangos sut y gall disgyblaeth y Gymraeg gyfrannu at fynd i'r afael â heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang.Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithio, cyfathrebu a dadansoddi beirniadol. Byddwch hefyd yn ymwybodol o'r problemau a’r heriau ieithyddol a diwylliannol sy'n wynebu cymdeithasau amlieithog cyfoes mewn cyd-destun byd-eang, a bydd gennych y syniadau a'r hyder sydd eu hangen i'w datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen** • **Dilyn eich diddordebau:** Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd yn ymwneud â’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth.• **Meithrin annibyniaeth barn:** Ymdriniwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau mewn ffordd annibynnol ac eangfrydig. • **Magu hyder yn y gweithle:** Dewch i ddeall y cyfleon a'r heriau sy'n wynebu'r Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol a datblygwch eich sgiliau ymarferol drwy ddefnyddio'r Gymraeg ar leoliad profiad gwaith.• **Cyfathrebu’n effeithiol:** Rhowch eich dealltwriaeth am y Gymraeg a’i chyweiriau ar waith ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth lunio a chyflwyno eich syniadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.• **Cyfrannu at gymuned Gymraeg fywiog:** Byddwch yn rhan o gymuned glos, gynhwysol o siaradwyr Cymraeg o bob cefndir a chyfrannwch at ffyniant y Gymraeg yn y brifddinas.

Saya termasuk departemen apa?

School of Welsh

Pilihan kuliah

Purna Waktu (3 tahun)

Biaya kuliah
£24.700,00 (Rp 499.846.970) per tahun
Ini adalah biaya tetap

* Biaya yang tercantum di halaman ini untuk tujuan indikatif, silahkan baca informasi resmi dari universitas bersangkutan

Tanggal mulai

September 2026

Tempat

Main Site - Cardiff

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

Purna Waktu (3 tahun)

Biaya kuliah
£24.700,00 (Rp 499.846.970) per tahun
Living cost -The minimum cost of living as recommended by UKVI for studying outside London is 1023 per month.

Ini adalah biaya tetap

* Biaya yang tercantum di halaman ini untuk tujuan indikatif, silahkan baca informasi resmi dari universitas bersangkutan

Tanggal mulai

September 2026

Tempat

Cardiff University - Cathays Park Campus

Park Place,

Cardiff,

CF10 3AT, Wales, United Kingdom

Mungkin ada beberapa persyaratan IELTS yang berbeda, tergantung jurusan yang kamu ambil

Product of

Sudahkah kamu bergabung dengan komunitas IDP?

Dapatkan cerita langsung dari alumni, gabung grup, dan nikmati fitur komunitas terbaru kami!

Cek komunitasnya sekarang!
cta banner image

Info tentang Cardiff University

Perkuliahan di Cardiff University diajar oleh para akademisi terkemuka. Para mahasiswa menikmati fasilitas pembelajaran yang modern dan spesialis.

  • Satu-satunya universitas anggota Russell Group di Wales
  • Masuk dalam jajaran 180 universitas terbaik dunia (QS, 2027)
  • 5.000 mahasiswa internasional
  • Jaminan ketersediaan akomodasi bagi mahasiswa internasional

Hubungi kami