Program Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol - BA Department of History and Welsh History Aberystwyth University

Hanes / Cysylltiadau Rhyngwladol - BA

Inggris

Apa yang akan saya pelajari?

Mae ein cynllun gradd Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth a hanes diweddar gan osod astudiaeth syniadau a sefydliadau gwleidyddol yng nghyd-destun deall datblygiadau hanesyddol. Cyfuna’r cwrs arbenigedd gwyddonwyr gwleidyddol a haneswyr mewn cwrs sydd â strwythur integredig a fydd yn caniatáu dewis eang o fodiwlau i ti. Bydd y dysgu yn cael ei rannu rhwng Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol mae gan y ddwy enw da am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu meysydd perthnasol.- Byddwch yn cael eich dysgu mewn dwy adran sydd â hanes hir a llewyrchus. Mae Hanes yn cael ei ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol oedd y gyntaf o'i bath pan sefydlwyd hi yn 1919.- Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ymysg y 40 uchaf yn y byd am ei henw da yn academaidd. (QS. 2017).- Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) diweddaraf, roedd Prifysgol Aberystwyth ymhlith y 10 uchaf yn y DU am ansawdd ei dysgu yn y pynciau Hanes a Gwleidyddiaeth.- Yn fyfyriwr ar y cwrs hwn, cewch eich mentora a'ch tywys gan ddarlithwyr sy'n frwdfrydig ac yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu rhagorol a deinamig ichi.- Mae ein haddysgu'n arloesol, yn seiliedig ar ymchwil ac wedi'i chynllunio i ddatblygu'ch sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.- Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg yr enwog 'Gemau Argyfwng' - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod sy'n ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datlygu'ch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio'n rhan o dîm, a datrys problemau.- Mae'r ddwy adran yn cynnig y cyfle i astudio dramor. Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth.- Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a ddysgir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, a byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfrau, logiau dysgu a chyflwyniadau.Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu'ch helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol.Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ar draws ein dysgu. Byddwn yn eich dysgu i anelu am yr yrfa rydych yn ei dymuno, ac nid y swydd y gallech ei gael.Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhedeg Cynllun Lleoliad Gwaith Seneddol uchel ei barch, sy'n gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf.Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn gartref i Interstate – y cyfnodolyn myfyrwyr gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y DU, a chyfle unigryw i gyhoeddi eich gwaith neu i ennill profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o’r tîm golygu. Mae'r adran hefyd yn cynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.Bydd astudio am y radd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda Hanes yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr ichi. Ymhlith rhain mae: y gallu i fynegi syniadau ac i gyfathrebu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar datrys problemau a meddwl yn greadigol effeithiol y gallu i weithio'n annibynnol sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser hunangymhelliant a hunanddibyniaethgweithio mewn tîm, gyda'r gallu i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan wran

Saya termasuk departemen apa?

Department of History and Welsh History

Pilihan kuliah

Purna Waktu (3 tahun)

Biaya kuliah
£20.400,00 (Rp 412.829.076) per tahun
Ini adalah biaya tetap
Tanggal mulai

September 2027

Tempat

Main Site (Aberystwyth)

Penglais Campus,

Penglais Road,

Aberystwyth,

Ceredigion,

SY23 3DD, Wales, United Kingdom

Mungkin ada beberapa persyaratan IELTS yang berbeda, tergantung jurusan yang kamu ambil

Product of

Sudahkah kamu bergabung dengan komunitas IDP?

Dapatkan cerita langsung dari alumni, gabung grup, dan nikmati fitur komunitas terbaru kami!

Cek komunitasnya sekarang!
cta banner image

Hubungi kami